Mae Adam, Sam, Cath, Evie a Ffion yn ddarlithwyr ac yn ddarpar fyfyrwyr yn Adran Nyrsio Prifysgol Abertawe, ac maen nhw'n rhedeg Hanner Marathon Abertawe er mwyn Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl.

Mae myfyrwyr nyrsio yn chwarae rôl hollbwysig mewn gofal iechyd. Nhw yw gweithwyr blaen y gad y dyfodol, a fydd yn gofalu am gleifion ac yn cyfrannu at les cymunedau. Mae'n hollbwysig i ni gydnabod bod myfyrwyr nyrsio yn fwy na'u perfformiad academaidd yn unig, a bod eu lles meddyliol yn bwysig hefyd.

Dyma pam eu bod wedi dewis taclo 13.1 milltir er mwyn cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl, yn eu geiriau eu hunain.

Pam eich bod eisiau rhedeg Hanner Marathon Abertawe i Gymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl?

Sam: Fel darlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl sy'n parhau i weithio sifftiau clinigol, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau enfawr sydd yn aml yn cael eu rhoi ar iechyd meddwl pobl ifanc a myfyrwyr yn gyffredinol. Mae'r pwysau yn aml yn cael eu profi’n waeth gan fyfyrwyr nyrsio, ac yn wir, nyrsys yn gyffredinol. Mae Hanner Marathon Abertawe yn rhoi cyfle i ni amlygu hyn, gan hefyd godi arian i gefnogi lles meddyliol myfyrwyr nyrsio yma ym Mhrifysgol Abertawe.

Cath: Mae Hanner Marathon Abertawe yn dod â chymuned gefnogol o redwyr, gwirfoddolwyr a gwylwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i eraill ynghyd. Rydw i eisiau i'r adran nyrsio fod yn rhan o wneud gwahaniaeth i'n corff myfyrwyr nyrsio, trwy godi arian i'w helpu ar adegau pan fo'u hangen. Mae ein nyrsys bob amser yn helpu eraill, ac er mwyn eu galluogi i barhau â hyn, mae angen i ni sicrhau eu bod yn wydn a dan ofal.

Evie a Ffion: Rydym yn edrych i astudio yn yr adran Nyrsio ac rydym yn teimlo ei bod yn hollbwysig i wneud profiad pob myfyriwr yn un positif, o'r rheiny sy'n astudio nyrsio ar hyn o bryd, i fyfyrwyr sy'n edrych i gychwyn - wrth gadw'n iach a chodi arian at achos da.

Adam: Mae'n her gorfforol a meddyliol roeddwn eisiau profi i fi fy hun fy mod i'n gallu'i gyflawni.Fel nyrsys, mae angen gwytnwch arnom er mwyn gwneud ein swydd hyd eithaf ein gallu. Mae rhedeg yr hanner marathon yn ymwneud â gwytnwch, cloddio'n ddwfn a choelio eich bod yn gallu'i gyflawni.

A oes unrhyw un ohonoch wedi rhedeg yn gystadleuol o'r blaen?

Cath: Dwi erioed wedi rhedeg pellteroedd hir yn gystadleuol o'r blaen. Yn fy nyddiau ysgol, cynrychiolais Gymru mewn athletau, ond pellteroedd byr iawn - felly bydd y ras hon yn hwyl! Rwy'n bod yn ‘nyrs nodweddiadol’ gan feddwl fy mod yn mynd i "gyrraedd a'i gwblhau!"

Sam: Er fy mod yn rhedwr brwd yn hanesyddol, rwyf wedi gadael i bethau lithro yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi "hwb yn fy mhen ôl" i glymu careiau fy esgidiau rhedeg a rhoi tro arni eto!

Adam: Cwblheais Farathon Eryri - y ras anoddaf rwyf erioed wedi cystadlu ynddi.

Ffion: Do.

Dywedwch wrthym sut byddwch yn hyfforddi cyn y ras.

Evie a Ffion: Byddwn yn cwblhau sesiynau byr yn ystod yr wythnos i gyd- fynd a'n hamserlenni adolygu ac arholiadau ac yna’n rhedeg pellter hir ar benwythnosau.

Cath: Bydd fy hyfforddiant yn cynnwys taclo pellteroedd bach pob dydd, a phellteroedd hir ar y penwythnos. Rwyf hefyd yn rhedeg mewn ardaloedd hardd â'r merched, ac fel cymhelliant, rydym yn ceisio cynllunio trywydd â siop goffi ar y diwedd fel gwobr!

Adam: Byddaf yn cyfuno rhedeg pellter hir â hyfforddiant cryfder yn ogystal ag ychwanegu ymarferion symudedd.

Dywedwch wrthym am unrhyw beth arbennig y byddwch yn ei wneud i godi arian.

Cath: Mae pawb yn yr adran wedi ymgymryd â chodi arian, nid yn unig y rhai ohonom sy'n rhedeg, mae'n ymdrech tîm go iawn - a dyma'r hyn yw nyrsio - gweithio gyda'n gilydd. Mae gennym staff anhygoel sy'n trefnu taith gerdded cŵn a noddir, gwerthiant teisennau a raffl, ac ar ddiwrnod y ras, bydd eraill yno â bwcedi, yn ein cefnogi ar hyd y daith. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai ymgymryd â'r her hwn yn bosib - nac mor hwylus!

Adam: Llawer o weithgareddau gwahanol, fodd bynnag, y peth mwyaf fydd derbyn cefnogaeth wych fy nghydweithwyr, ffrindiau ac anwyliaid.

Evie a Ffion: Rydym yn rhannu ein tudalen codi arian â ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw wedi codi dros £150 o'n targed hyd yn hyn.

Cath and her dog

Cath Norris - Athro Cyswllt - Meddygaeth Iechyd a Gwyddor Bywyd

Os hoffech noddi'r tîm, gallwch wneud trwy eu tudalen JustGiving. Wrth roi rydych yn sicrhau bod ein myfyrwyr nyrsio yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt i ddod yn weithwyr proffesiynol tosturiol a gwydn - Diolch!